Dywedodd gweision sifil sy'n gyfrifol am weithredu'r rhaglen wrth y pwyllgor bod y rhaglen yn cymryd agwedd fwy strategol at fuddsoddi cyfalaf nag o'r blaen.
Mae'r rhaglen yn nodi y dylai ysgolion fod yn addas at y diben a bod angen rhaglen buddsoddi sylweddol i adnewyddu adeiladu, gyda mwy o arian nag a ddarparwyd yn ystod tymor diwethaf y cynulliad.